Pam rhentu i ni?

  • Mae modd i ni warantu y byddwch chi, y landlord, yn derbyn rhent bob mis gan Asiantaeth Gosod Tai Cymdeithasol Rhondda Cynon Taf, bydd rhent yn cael ei dalu hyd yn oed os bydd yr eiddo yn wag. 
  • Mae'r swm y byddwch chi'n ei dderbyn wedi'i osod ar 100% o'r gyfradd Lwfans Tai Lleol sy'n berthnasol ar gyfer maint ac arwynebedd yr eiddo.
  • Fydd dim angen i chi fod mewn cyswllt â Deiliad y Contract.
  • Bydd Swyddog Tai'r Asiantaeth Gosod Tai Cymdeithasol yn cynnal ymchwiliadau eiddo bob 6 mis neu'n fwy aml os yw problemau yn cael eu nodi.
  • Yn ystod y brydles pum mlynedd o hyd, ni fydd angen i chi gyflawni unrhyw waith atgyweirio nac unrhyw fân waith cynnal a chadw.
  • Bydd yr Asiantaeth Gosod Tai Cymdeithasol yn cynnal ymchwiliadau diogelwch nwy a phum prawf trydan blynyddol (os oes angen cynnal y profion yma yn ystod cyfnod y brydles).  
  • Os bydd yr eiddo yn cael ei ddifrodi, bydd yr Asiantaeth Gosod Tai Cymdeithasol yn mynd i'r afael â hyn ar eich rhan yn rhad ac am ddim.
  • Bydd yr eiddo yn cael ei roi'n ôl i chi ar ddiwedd y brydles o bum mlynedd yn yr un cyflwr ag yr oedd ar ddechrau'r brydles, ond cofiwch bydd rhywfaint o draul.