Gofynion

A chithau'n landlord, rhaid i chi ddarparu'r canlynol i’r Asiantaeth Gosod Tai Cymdeithasol;

  1. Caniatâd ysgrifenedig sy’n nodi bod eich darparwr morgais yn cytuno i chi gymryd rhan yn y cynllun (os oes morgais ar yr eiddo).
  2. Yswiriant adeiladau blynyddol drwy gydol y brydles, bydd yr Asiantaeth Gosod Tai Cymdeithasol yn anfon nodyn atgoffa atoch chi bob blwyddyn cyn i gyfnod yr yswiriant ddod i ben.
  3. Rhaid i chi gadarnhau bod darparwyr eich yswiriant adeiladau yn effro i’r faith bod yr eiddo yn rhan o brydles 5 mlynedd.
  4. Tystysgrifau Perfformiad/Diogelwch Nwy, Trydan ac Ynni cychwynnol.
  5. Tystiolaeth gan y Gofrestrfa Tir yn cadarnhau eich bod chi'n berchen ar yr eiddo.
  6. Y landlord fydd yn gyfrifol am dalu unrhyw daliadau gwasanaeth mewn perthynas â'r eiddo (er enghraifft ardaloedd cymunedol/lifftiau).
  7. Y landlord fydd yn gyfrifol am unrhyw waith strwythurol allanol (er enghraifft gwaith atgyweirio’r to).