Cwestiynau Cyffredin

Mae gen i ddiddordeb yn y cynllun ond does gen i ddim eiddo yn barod eto, a yw'n werth i fi gysylltu?

Ydy. Rydyn ni bob tro'n awyddus i siarad â landlordiaid a dechrau meithrin perthynas gyda chi. Efallai y bydd hefyd brosiectau eraill yn y Cyngor sy'n addas ar eich cyfer, gan ddibynnu ar eich sefyllfa.  Mae modd i chi gysylltu â'r asiantaeth gosod tai cymdeithasol drwy e-bostio GosodTaiCymdeithasol@rctcbc.gov.uk

Pa ddogfennau sydd eu hangen arna i i ymuno â'r cynllun?

Bydd angen i chi gael caniatâd gan eich cwmni morgais ac yswiriant a phrawf o'r Gofrestrfa Tir. Mae'n rhaid bod gyda chi Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus trwy gydol y brydles. Bydd rhaid i chi hefyd ddarparu tystysgrif diogelwch nwy gychwynnol a thystysgrif  Adroddiad Cyflwr Gosodiadau Trydanol (EICR). Mae rhagor o wybodaeth yn y pecyn gwybodaeth rydyn ni'n ei anfon atoch chi wedi i chi fynegi diddordeb yn y cynllun.

A fyddwch chi'n talu am y tystysgrifau diogelwch?

A chithau'n landlord, bydd rhaid i chi ddarparu'r dystysgrif diogelwch nwy cychwynnol a thystysgrif Adroddiad Cyflwr Gosodiadau Trydano (EICR) cyn llofnodi prydles. Bydd rhaid i'r rhain fod yn ddilys am o leiaf 6 mis ar ôl llofnodi'r brydles. Ein cyfrifoldeb ni fydd trefnu a thalu am dystysgrifau diogelwch nwy a thystysgrif EICR sy'n ofynnol yn ystod amser y contract.

Oes modd i'r brydles fod yn llai na 5 mlynedd?

Na, mae'r brydles wedi'i gosod am o leiaf 5 mlynedd.

Oes rhaid i fi gofrestru â Rhentu Doeth Cymru?

Nac oes. Os ydych chi'n dewis cofrestru'ch eiddo â'r cynllun Asiantaeth Gosod Tai Cymdeithasol fydd dim rhaid i chi fod yn landlord cofrestredig cyn belled â nad oes gyda chi eiddo rhent preifat eraill.

Pa mor hir yw'r broses i feddiannu fy eiddo?

Bydd hyd yr amser yn amrywio rhwng bob eiddo a bydd yn dibynnu, yn gyffredinol, ar faint o waith sydd angen ei gynnal a pha mor hir y bydd hi'n ei chymryd i gwblhau'r gwaith. Pan fyddwn ni'n derbyn yr holl ddogfennau sydd eu hangen i lunio drafft o'r gwaith papur cyfreithiol ar ôl cwblhau'r gwaith, byddwn ni'n ceisio cwblhau'r broses o fewn 6-8 wythnos.

Beth yw'r safonau gofynnol?

Mae modd gweld gwybodaeth am safonau gofynnol y cynllun ar ein gwefan: Safonau Gofynnol 

Pa mor aml bydd y Garfan yn cysylltu â fi pan fydd fy eiddo ar y cynllun?

Bydd carfan yr Asiantaeth Tai Cymdeithasol yn cysylltu â chi gydag unrhyw ddiweddariadau sy'n ymwneud â'r eiddo y dylech chi fod yn effro iddyn nhw, neu os fyddwn ni'n derbyn ceisiadau gan ddeiliad contract er mwyn gwneud diweddariadau i'r eiddo (er enghraifft, gosod canllaw gafael ar gyfer pobl ag anableddau). Mae croeso i chi gysylltu â ni bob amser os oes gyda chi unrhyw adborth, unrhyw gwestiynau neu bryderon yn ystod cyfnod y brydles. Byddwn ni'n cynnal arolygon boddhad yn ystod y brydles er mwyn darparu'r cymorth gorau i'n Landlordiaid. Fydd gyda chi ddim cyswllt uniongyrchol â deiliad y contract ond bydd modd cyfathrebu, os oes angen, trwy'r asiantaeth gosod tai cymdeithasol.

Beth yw'r gyfradd gyfredol y bydda i'n ei chael ar gyfer fy eiddo?

Mae modd i chi ddod o hyd i'r gyfradd tai lleol ar wefan RhCT yma: Y Lwfans Tai Lleol | Cyngor Bwrdeistref Sirol 

Os bydd cyfradd y Lwfans Tai Lleol yn cynyddu yn ystod y brydles, bydd fy rhent yn cynyddu?

Bydd. Os yw cyfradd y Lwfans Tai Lleol yn cynyddu, bydd y cynnydd hwnnw'n berthnasol i chi a bydd yr addasiadau perthnasol yn cael eu rhoi ar waith yn awtomatig.

A ga i ddod â'r brydles i ben yn gynnar?

Mae pob prydles yn para o leiaf 5 mlynedd, ac rydyn ni'n ceisio sicrhau bod ein landlordiaid yn fodlon gweithio gyda charfan yr Asiantaeth Tai Cymdeithasol ar gyfer cyfnod y brydles. Os yw eich amgylchiadau chi'n newid a does dim modd i chi barhau â'r cynllun i brydlesu eich eiddo rhagor, mae modd dod â'r contract i ben. Fodd bynnag, bydd rhaid ad-dalu unrhyw arian rydych chi'n ei dderbyn i wella eich eiddo er mwyn ei wneud yn addas i fod yn rhan o'r cynllun.

Beth fydd yn digwydd os bydd fy eiddo yn dod yn wag?

Yr asiantaeth gosod tai cymdeithasol fydd yn gyfrifol am unrhyw gostau sy'n codi os bydd yr eiddo'n wag gan gynnwys costau rhent, Treth y Cyngor, cyfleustodau a gwaith cynnal a chadw. Fyddwch chi ddim yn derbyn didyniad i swm y rhent rydych chi'n ei dalu.

Pa fath o eiddo a lleoliadau ydych chi'n edrych amdanyn nhw?

Ar hyn o bryd, mae galw mawr am eiddo un ystafell wely ledled Rhondda Cynon Taf. Mae gyda ni ddiddordeb mawr mewn eiddo yn ardal Taf-Elái. Fodd bynnag, diben y cynllun yw atal digartrefedd ac rydyn ni'n awyddus i ymweld â phob eiddo sy'n cael eu cynnig er mwyn asesu pa mor addas ydyn nhw.

Os oes angen cynnal gwaith ar fy eiddo, pa gontractwyr oes modd i fi eu defnyddio?

Yn anffodus, does dim contractwyr gan garfan yr Asiantaeth Tai Cymdeithasol i gynnal gwaith er mwyn sicrhau bod eich eiddo yn diwallu safonau Llywodraeth Cymru.

A oes angen i fi ddodrefnu'r eiddo a darparu nwyddau gwyn? 

Nac oes, rydyn ni'n chwilio am eiddo heb ddodrefn i ymuno â'r cynllun.

Ar ddiwedd y brydles, a ga i gadw'r tenant ymlaen gyda'm tenantiaeth fy hun?

Yn ystod 6/9 mis olaf y contract bydd ein swyddogion tai yn dechrau trafodaethau gyda chi mewn perthynas â'ch anghenion chi a'r tenantiaid pan ddaw'r contract i ben ac yn darparu unrhyw gymorth pellach sydd ei angen.

A ga i fod â mwy nag un eiddo ar y cynllun?

Cewch, ar yr amod bod yr eiddo'n bodloni'r safonau gofynnol ac anghenion y cynllun.

Pa waith trwsio ydych chi'n talu amdano?

Rydyn ni'n talu am waith trwsio mân, megis tap sy'n gollwng, problemau â boiler a phroblemau trydanol mân. Cyfrifoldeb y landlord yw cynnal unrhyw waith trwsio strwythurol sylweddol, er enghraifft, gwaith trwsio'r to.

Os ydw i'n penderfynu fy mod i eisiau ailfeddiannu fy eiddo ymhen 5 mlynedd, sut bydd yr eiddo yn cael ei ddychwelyd i fi?

Byddwn ni'n cynnal arolwg ffotograffig sydd wedi'i gynnwys yn eich prydles. Byddwn ni'n dychwelyd yr eiddo yn yr un cyflwr ag oedd ar ddechrau’r brydles, ac eithrio traul gyffredinol.

Pwy fydd yn meddiannu fy eiddo?

Rydyn ni'n gweithio'n agos â'n carfan Datrysiadau Tai i ddod o hyd i atgyfeiriadau addas ar gyfer pobl sydd mewn perygl o ddod yn ddigartref ac sydd angen tŷ newydd.