Sut mae'n gweithio

  • Cwblhewch ffurflen mynegi diddordeb a bydd un o'n swyddogion tai yn cysylltu â chi cyn pen 10 diwrnod o dderbyn y ffurflen mynegi diddordeb er mwyn trefnu asesiad ar gyfer yr eiddo.

  • Bydd y Swyddog Tai yna'n trafod yr eiddo yn fewnol ar ôl cwblhau’r broses asesu yn yr eiddo cyn rhoi gwybod i chi am y canlyniad.

  • Os yw’r eiddo’n cael ei dderbyn yn rhan o'r cynllun ac mae angen cwblhau gwaith, bydd gyda chi'r cyfle i wneud cais am grant cynnal a chadw. Mae modd i chi fwrw golwg ar y safonau gofynnol yma

  • Os yw’r eiddo yn cael ei dderbyn yn rhan o'r cynllun, bydd y landlord yn rhan o gytundeb prydles. Dyma brydles rhwng y landlord ac Asiantaeth Tai Cymdeithasol Rhondda Cynon Taf sy'n cynnwys dyddiadau targed.

  • Ar ôl i'r landlord roi gwybod i'r Swyddog Tai bod y gwaith wedi'i gwblhau (os oes angen cwblhau gwaith) bydd yr arolygwr iechyd y cyhoedd yn ymweld â’r eiddo eto er mwyn sicrhau bod y gwaith wedi'i gwblhau at safon ofynnol Llywodraeth Cymru.

  • Unwaith y bydd yr holl waith wedi'i gwblhau ac ar ôl llofnodi’r dogfennau cyfreithiol, byddwn ni'n casglu'r allweddi ac yn rheoli'r eiddo am gyfnod o 5 mlynedd.

  • Pecyn Gwybodaeth i Landlordiaid